|

English / Cymraeg

Lawrlwyhto ac Argraffu'r
daflen rhad ac am ddim

Gwyliau Golff
yng Nghymru a Sbaen
darllenwch fwy |
 |
 |
|
Saif dinas Bangor, gyda’i Phrifysgol
a’i Chadeirlan, dan gysgod y ‘Coleg ar y Bryn’ ar
lan y Fenai.
Mae’n ganolfan siopa brysur gyda nifer
o enwau cyfarwydd ar y stryd fawr yn ogystal â theatr,
sinema a thafarndai a chlybiau bywiog. Gallwch gerdded o’r
gwesty i bwll nofio wedi’i wresogi a llain bowlio gerllaw.
|
Adeiladwyd
y Pier Fictoriaidd, sy’n 1500 troedfedd o hyd ym
1896 ac fe gafodd ei ail-wneud yn gyfan gwbl ym 1988.
Gallwch
gerdded ar ei hyd ac o gyrraedd y pen pellaf cewch y golygfeydd
gorau o’r ddinas a’r wlad o’i chwmpas
a’r Fenai.
|
Mae toreth o adeiladau
hanesyddol i ymweld â hwy yng Ngogledd Cymru ac o
fewn tafliad carreg i’r gwesty ac os yw hanes yn
mynd â’ch bryd rydym yn eich argymell yn gryf
i fynd am dro i drefi caerog Caernarfon, Conwy a Biwmares . Ar gyrion Bangor mae Castell
Penrhyn (o’r cyfnod
neo-Normanaidd), sef cyn-gartref perchennog y chwareli
llechi lleol. Caiff ei redeg erbyn hyn gan yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol.
 
|
Ewch am dro dros
bont Thomas Telford dros y Fenai i flasu ychydig o hud
a lledrith Ynys Môn sy’n frith o faeau, traethau
a henebion.
 
|
Mae Parc
Cenedlaethol Eryri yn ardal ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n
mwynhau bod allan yn yr awyr agored lle gallwch gerdded,
dringo, canwio neu feicio ymysg pethau eraill. Mae’r
canolfannau Cenedlaethol Chwaraeon Dwr a Mynydda, ill dau,
o fewn taith 30 munud mewn car o’r gwesty.
 
I’r llai egnïl yn eich plith,
gallwch deithio ar y trên sy’n mynd o bentref Llanberis a chyrraedd copa’r Wyddfa heb orfod cerdded
cam. Mae digon o bethau i’r plant eu gwneud hefyd
ym Mharc Coedwig Greenwood, sydd wedi ennill gwobrau lu. |
Dolenni:
Bwrdd Croeso Gogledd Cymru - www.nwt.co.uk
Parc Cenedlaethol Eryri - www.eryri-npa.co.uk
Parc Coedwig Greenwood - www.greenwood-centre.co.uk
Lleol Anturia Gweithgareddau - www.shaggysheepwales.co.uk
|
|
|
 Gwesty Eryl Môr, 2 Ffordd Garth Uchaf,
Bangor, Gwynedd, LL57 2SR.
Ffôn: 01248 353789 E-bost:
Ffacs: 01248 354042
|