|

English / Cymraeg

Lawrlwytho ac Argraffu'r
daflen rhad ac am dim

Gwyliau Golff yng
Nghymru a Sbaen
darllenwch fwy |
 |
 |
|
Ceir naws gyfforddus a chyfeillgar yn y bwyty a’r
bariau felly does ryfedd bod cymaint o bobl leol ac ymwelwyr
yn dod yma i fwynhau. Cewch wasanaeth heb ei ail a bwyd a
diod o’r ansawdd gorau heb orfod twrio’n rhy
ddwfn i’ch pocedi. Cewch fwynhau pryd o fwyd gyda’r
nos naill ai yn yr ystafell haul neu yn yr ystafell fwyta.
Ni cheir ysmygu yn yr un ohonynt.
 
Rydym yn falch iawn o’n bwydlen ddiddorol sy’n
tynnu dwr o’ch dannedd. Dyma’ch cyfle i gael
blasu bwydydd o Brydain, o Ffrainc ac o Fôr y Canoldir
ar lannau’r Fenai.
Dewch i flasu rhai o'n bwydydd mwyaf poblogaidd:
Minted Lamb Henry Medallions of Lamb with redcurrant or mint & garlic Fillet steak au porte with blue cheese Fresh seafood platter Trout with prawns and garlic (V) Mushroom and leek stroganoff (V) Mexican avocado bake Chicken Dijonaise Prawn Jalfrezi
(Mae yna lawer mwy o ddewis ar gael, gan gynnwys bwydydd
i lysieuwyr a phrydau i blant.)
Mae gan y gwesty drwydded lawn ac fe allwch
dorri syched yn ein dau far sy’n llawn dop o gwrw go iawn, lagers
cryf, gwinoedd a gwirod.

|
|
|
 Gwesty Eryl Môr, 2 Ffordd Garth Uchaf,
Bangor, Gwynedd, LL57 2SR.
Ffôn: 01248 353789 E-bost:
Ffacs: 01248 354042
|